Llyfrau braslunio y dosbarthiadau:
14th September 2018
Mae rhai disgyblion wedi cael llyfr braslunio i fynd adre' gyda nhw heno.
Er mwyn dathlu talentau ein disgyblion a chyda cyflwyniad y cwricwlwm newydd sydd â phwyslais cynyddol ar y celfyddydau mynegiannol, rydym wedi penderfynu cyflwyno llyfr braslunio i bob dosbarth. Bydd y llyfr yn cael ei ddanfon adref gyda disgybl gwahanol bob wythnos.
Edrychwn ymlaen at weld gwaith y disgyblion wythnos nesaf.
Pob lwc!