Prynhawn Lles:
27th September 2018
Ddoe, cafwyd prynhawn lles cynta'r flwyddyn.
Y thema ar gyfer y prynhawn lles oedd 'Mudiadau sy'n ein helpu'.
Edrychodd y disgyblion ar waith yr heddlu yn y gymuned leol a dysgon nhw am waith gwahanol fudiadau megis Meic, Childline ac NSPCC.
Mwynhaodd plant blwyddyn 2 ymweliad gan PC Thomas a siaradodd am ei gwaith yn y gymuned leol.
Mwynhaodd disgyblion blwyddyn 4 weithdy gan y Samariaid a siaradodd am eu rôl fel mudiad sy'n helpu.
Am fwy o wybodaeth am eu gwaith, ewch i'r gwefannau isod.
Da iawn i bawb!
Related Links
- Gwefan Meic (www.meiccymru.org)
- Gwefan Childline (www.childline.org.uk)
- Gwefan NSPCC (www.nspcc.org.uk)