Taith Blynyddoedd 5 a 6 i Langrannog:
8th October 2018
Aeth 82 disgybl a 10 aelod o staff i Langrannog ar y penwythnos.
Roedd y tywydd yn wych a mwynhaodd y disgyblion a'r staff eu penwythnos i ffwrdd. Roedd ymddygiad y disgyblion yn wych trwy gydol y penwythnos a chafwyd llawer iawn o hwyl yn cymdeithasu gyda disgyblion eraill sy'n bwydo Ysgol Gyfun Gwynllyw.
Diolch yn fawr iawn i bob aelod o staff am roi eu penwythnos i fynd â'r disgyblion i ffwrdd.
Diolch yn fawr.