Hyfforddiant Cymorth Cyntaf:
9th October 2018
Mae disgyblion blwyddyn 6 wedi derbyn hyfforddiant sylfaenol cymorth cyntaf heddiw.
Daeth cynrychiolydd o 'Red Cross' i ddarparu'r hyfforddiant ar gyfer disgyblion blwyddyn 6 heddiw. Gweithiodd y disgyblion yn galed iawn a dysgon nhw lawer am yr hyn i'w wneud mewn sefyllfaoedd meddygol amrywiol.
Bydd disgyblion blwyddyn 5 yn derbyn hyfforddiant cymorth cyntaf yn yr wythnosau nesaf hefyd.
Da iawn i bawb.