Casgliad Banc Bwyd:
19th October 2018
Diolch yn fawr am eich rhoddion hael i'r banc bwyd heddiw.
Cafwyd gwasanaeth diolchgarwch hyfryd i ddechrau'r dydd heddiw gyda'r gweinidog, Evan Morgan, yn rhoi neges bwysig i ni am yr holl bethau sydd gyda ni i fod yn ddiolchgar amdanynt a sut dylwn ni edrych ar eu holau.
Danfonwyd nifer fawr o duniau mewn i'r ysgol ac rydyn ni'n gwybod bydd y banc bwyd lleol yn ddiolchgar iawn am yr holl fwyd.
Diolch yn fawr.