Trefniadau'r Wythnos:
4th November 2018
Dyma'r trefniadau ar gyfer yr wythnos hon yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
** Cost ffrwyth ar gyfer yr hanner tymor hwn yw £7. **
Porffor yw lliw'r wythnos ar gyfer plant y feithrin.
Dydd Llun:
Bydd yr ysgol yn ail ddechrau i'r disgyblion heddiw.
Dydd Mawrth:
Clwb coginio ar ôl ysgol ar gyfer plant blwyddyn 2 Miss Hughes. (3:30 - 4:30)
Ymarfer côr rhwng 3:30 a 4:30.
Dydd Mercher:
Mae gwersi Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gwent ymlaen heddiw - 09:15 tan 11:15 yn llyfrgell yr ysgol.
Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday) Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.
Clwb gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.
(Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion sy'n mynychu'r clwb.)
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6. (3:30 - 4:30)
Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4. (3:30 - 4:30)
Cyfarfod yn Ysgol Gyfun Gwynllyw ar gyfer rhieni / gwarchodwyr disgyblion blynyddoedd 5 a 6.
(Rydych eisoes wedi derbyn llythyr gan Gwynllyw.)
Rhieni / gwarchodwyr disgyblion blwyddyn 5 - cyfarfod rhwng 4:30 a 6.
Rhieni / gwarchodwyr disgyblion blwyddyn 6 - cyfarfod anffurfiol am 4 / cyfarfod ffurfiol am 6.
Dydd Iau:
Gwers nofio i ddisgyblion blwyddyn 4 Mrs Lewis.
Cystadleuaeth rygbi yr Urdd.
(Mae'r rhai sy'n cystadlu wedi derbyn llythyr.)
Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion os gwelwch yn dda.
Sesiwn bêl-droed i ddisgyblion blwyddyn 6 gyda Chasnewydd.
Clwb rygbi ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6. (3:30 - 4:30)
Clwb Clebran ar gyfer rhieni / gwarchodwyr - cyfle i ymarfer eich Cymraeg mewn sefyllfa anffurfiol.
(3:30 - 4:30)
Dydd Gwener:
** Gall disgyblion dosbarth Mr Bridson wisgo gwisg anffurfiol i'r ysgol heddiw gan eu bod wedi ennill presenoldeb y mis ar gyfer mis Hydref. **
Iminweiddio Ffliw - gofynnwn i chi ddychwelyd y slip caniatâd erbyn heddiw os gwelwch yn dda.
Ymweliad ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 - cynrychiolwyr o Gemau'r Gymanwlad.
Gwers ffidil ar gyfer plant blwyddyn 2 Miss Hughes.
Clwb HWB ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn ystod amser cinio.
Diolch.