Ymweliad â Byddin yr Iachawdwriaeth:
15th November 2018
Aeth y prif swyddogion i Eglwys Byddin yr Iachawdwriaeth bore 'ma.
Croesawyd y disgyblion gan Mr Rosser, cyn llywodraethwr yn yr ysgol. Dysgodd y disgyblion am waith yr Eglwys yn y gymuned leol ac edrychon nhw ar waith y banc bwyd yn enwedig.
Bob blwyddyn, rydym yn casglu arian / tuniau / nwyddau i'r banc bwyd cyn y Nadolig felly mae'r prif swyddogion wedi dechrau meddwl am syniadau o'r hyn y byddwn yn eu casglu eleni.
Bydd llythyr yn cael ei ddanfon adref yn yr wythnosau nesaf.
Diolch yn fawr.