Trefniadau'r Wythnos:
15th November 2018
Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
Band yr Wythnos yw 'Mellt'. Byddwn yn gwrando ar 'Planhigion gwyllt' a 'Sai'n becso'.
Patrwm Iaith yr Wythnos yw'r gwahaniaeth rhwng 'pan' a 'pryd'.
Brown yw lliw'r wythnos ar gyfer plant y feithrin.
Dydd Llun:
Clwb Lles ar gyfer disgyblion CA2 yn ystod amser cinio.
Dydd Mawrth:
Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos - 09:10 yn neuadd yr ysgol.
Clwb Celf ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.
Diwrnod Eco Torfaen: Bydd pedwar aelod o'r Eco-bwyllgor yn mynd ar daith heddiw.
(Mae'r rhai sy'n mynd wedi derbyn llythyr.)
Bydd angen gwisg ysgol, cot law ac esgidiau addas ar y disgyblion, yn ogystal â phecyn cinio.
Cyfarfod C.Rh.A - 3:30 yn llyfrgell yr ysgol.
Croeso cynnes i bawb.
Clwb coginio ar ôl ysgol ar gyfer plant blwyddyn 2 dosbarth Miss Wena Williams.
(3:30 - 4:30)
Ymarfer côr rhwng 3:30 a 4:30.
Dydd Mercher:
Mae gwersi Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gwent ymlaen heddiw - 09:15 tan 11:15 yn llyfrgell yr ysgol.
Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday) Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.
Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.
Clwb gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.
(Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion sy'n mynychu'r clwb.)
Bydd disgyblion blwyddyn 3 yn mynd i Eglwys St. Gabriel heddiw.
(Dosbarthiadau Miss Broad a Miss Westphal.)
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6. (3:30 - 4:30)
Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4. (3:30 - 4:30)
Dydd Iau:
Gwers nofio i ddisgyblion blwyddyn 4 Mrs Lewis.
Gwers ffidil ar gyfer plant blwyddyn 2 Miss Hughes.
Sesiwn bêl-droed i ddisgyblion blwyddyn 6 gyda Chasnewydd.
Clwb rygbi ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6. (3:30 - 4:30)
Dydd Gwener:
Cystadleuaeth Rygbi.
(Mae'r rhai sy'n cymryd rhan wedi derbyn llythyr.)
Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion a gallant ddod i'r ysgol yn eu dillad ymarfer corff.
Bydd plant dosbarth Miss Hughes yn ymweld â Chanolfan Addysg Cilfynydd heddiw. (Llythyr i ddilyn.)
Bydd angen i'r disgyblion wisgo eu gwisg ysgol a bydd angen pecyn cinio arnynt os gwelwch yn ogystal.
Clwb HWB ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn ystod amser cinio.
Diolch.