Gala nofio'r Urdd:
7th December 2018
Da iawn i bawb aeth i gymryd rhan yng ngala nofio'r Urdd wythnos diwethaf.
Mae'r canlyniadau bellach wedi'u cyhoeddi ac rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod y tîm wedi perfformio'n dda iawn yn y gala nofio.
Daeth tîm cyfnewid y bechgyn yn drydydd a daeth y tîm cymysg yn ail - da iawn i'r ddau dîm.
Daeth y disgyblion canlynol yn gyntaf a byddant felly'n mynd ymlaen i gynrychioli Gwent yng Ngala Nofio Cenedlaethol yr Urdd yng Nghaerdydd ym mis Ionawr:
Seren Croke - cyntaf yn ras blynyddoedd 3 a 4 i ferched - pili pala. (19:25)
Seren Croke - cyntaf yn ras blynyddoedd 3 a 4 i ferched - rhydd. (18:50)
Ellis Rosser - cyntaf yn ras blynyddoedd 5 a 6 i fechgyn - rhydd. (34:18)
Ellis Rosser - cyntaf yn ras blynyddoedd 5 a 6 i fechgyn - cefn. (39:03)
Carys Croke - cyntaf yn ras blynyddoedd 5 a 6 i ferched - pili pala. (33:06)
Carys Croke - cyntaf yn ras blynyddoedd 5 a 6 i ferched - ras unigol. (1:16:09)
Da iawn i bawb a gymerodd ran - ardderchog!