Trefniadau'r Wythnos:
3rd January 2019
Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân.
Blwyddyn Newydd Dda i bawb!
* Does dim clybiau ar ôl ysgol yr wythnos hon, ar wahân i Glwb Plant y Tri Arth. *
Dydd Llun:
Diwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd:
Does dim ysgol i'r disgyblion heddiw gan fod hyfforddiant ar gyfer staff.
Dydd Mawrth:
Bydd yr ysgol yn ail ddechrau i'r disgyblion heddiw a bydd ein her Ionawr hefyd yn dechrau heddiw.
(Gweler y llythyr yn rhan 'Llythyron Adref' o'r wefan.)
Dydd Mercher:
Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday) Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.
Dydd Iau:
Gwers nofio i ddisgyblion blwyddyn 4 Mrs Lewis.
Sesiwn bêl-droed i ddisgyblion blwyddyn 6 gyda Chasnewydd.
Dydd Gwener:
** Gall blant dosbarth Mrs Dalgleish wisgo dillad eu hunain i'r ysgol gan eu bod wedi ennill presenoldeb y mis ar gyfer mis Rhagfyr. **
Sesiwn greadigol Ffa La La ar gyfer plant y feithrin, derbyn a blwyddyn 1.
Gwers ffidil ar gyfer plant blwyddyn 2 Miss Hughes.
Diolch.