Trefniadau'r Wythnos:
24th January 2019
Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân.
Patrwm Iaith yr Wythnos yw 'Dydy e / Dydy hi ddim ....'
Ein thema lles ar gyfer yr wythnos hon, i gyd-fynd gyda'r Her Ionawr, yw 'rhoi'.
Dydd Llun:
Gweithdy celf ar gyfer plant dosbarthiadau Miss Hughes a Miss W Williams gyda Llantarnam Grange.
Clwb Lles ar gyfer disgyblion CA2 yn ystod amser cinio.
Clwb chwaraeon yr Urdd at gyfer plant blwyddyn 2 rhwng 3:30 a 4:30.
(Mae'r clwb hwn yn cael ei redeg gan yr Urdd yn allanol.)
Dydd Mawrth:
Gwasanaeth disgybl yr wythnos - 09:10 yn neuadd yr ysgol.
Gweithdy celf ar gyfer plant dosbarthiadau Miss Thomas a Miss Sheppeard gyda Llantarnam Grange.
Bydd Miss James (Ysgol Gwynllyw) yn dod i siarad gyda disgyblion blwyddyn 6 bore 'ma.
Clwb Celf ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.
Clwb gwnïo ar ôl ysgol ar gyfer plant blwyddyn 3 rhwng 3:30 a 4:30. (50c)
Ymarfer côr rhwng 3:30 a 4:30.
Dydd Mercher:
Mae gwersi Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gwent ymlaen heddiw - 09:15 tan 11:15 yn llyfrgell yr ysgol.
Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday) Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.
Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.
Clwb gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.
(Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion sy'n mynychu'r clwb.)
* Prynhawn lles - ein thema yr wythnos hon yw 'rhoi'.
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6. (3:30 - 4:30)
Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3, 4, 5 a 6. (3:30 - 4:30)
Dydd Iau:
Gweithdai creadigol Ffa La La ar gyfer plant y feithrin, derbyn a blwyddyn 1.
Gwers nofio i ddisgyblion blwyddyn 4 Mrs Lewis.
Clwb HWB ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4 amser cinio.
Sesiwn bêl-droed i ddisgyblion blwyddyn 5 gyda Chasnewydd prynhawn 'ma.
(Dosbarth Mr Price a disgyblion blwyddyn 5 Miss Heledd Williams.)
Clwb pêl-droed ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6. (3:30 - 4:30)
Dydd Gwener:
Gwers ffidil ar gyfer plant blwyddyn 2 Miss Hughes.
Clwb HWB ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn ystod amser cinio.
Bydd rhai o ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn helpu disgyblion blwyddyn 5 Ysgol Coed Eva gyda'u gwaith Cymraeg prynhawn 'ma. (1:15-2:15)
Diolch.