Sesiynau dawns:
13th February 2019
Rydyn ni'n ffodus iawn i groesawu un o'n cyn ddisgyblion yn ôl i'r ysgol.
Bydd Kai yn helpu ein dawnswyr disgo i baratoi ar gyfer rownd gyntaf yr Eisteddfod mewn ychydig fisoedd. Roedd disgyblion blynyddoedd 5 a 6 wrth eu boddau yn eu sesiwn gyntaf heno ac maen nhw'n edrych ymlaen at y sesiwn nesaf yn barod.
Diolch yn fawr, Kai.