Ymgyrch Gwylio Adar yr RSPB:

20th February 2019
Mae'r disgyblion wedi cymryd rhan yn ymgyrch Gwylio Adar yr RSPB heddiw.
Fel rhan o'u prynhawn lles, mae'r disgyblion wedi bod allan yn chwilio am adar ar dir yr ysgol ac yn yr ardal leol heddiw. Mae hwn yn rhan o ymgyrch #GwylioAdar yr RSPB a bydd y canlyniadau'n cael eu mewnbynnu i'w gwefan. Mae'r disgyblion wedi dysgu am adar lleol ac wedi bod yn cwblhau gweithgareddau celf yn seiliedig ar yr adar hyn.
Da iawn.