Trefniadau'r Wythnos:

7th March 2019
Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân.
Dydd Llun:
Clwb Lles ar gyfer disgyblion CA2 yn ystod amser cinio.
Clwb chwaraeon yr Urdd i blant blwyddyn 2 ar ôl ysgol - 3:30 tan 4:30.
* Noson rieni *
Dydd Mawrth:
Gwasanaeth Disgybl yr wythnos - 09:10 yn neuadd yr ysgol.
Clwb Celf ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.
* Noson rieni *
Dim clwb gwnïo ar ôl ysgol.
Dim ymarfer côr ar ôl ysgol.
Dydd Mercher:
Mae gwersi Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gwent ymlaen heddiw - 09:15 tan 11:15 yn llyfrgell yr ysgol.
Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday)
Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.
Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.
Clwb gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.
(Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion sy'n mynychu'r clwb.)
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4. (3:30 - 4:30)
Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3, 4, 5 a 6. (3:30 - 4:30)
Sesiwn dawnsio disgo ar gyfer yr Eisteddfod. (3:30 - 4:30
Dydd Iau:
Gweithdai creadigol Ffa La La ar gyfer plant y feithrin, derbyn a blwyddyn 1.
Gwers nofio i ddisgyblion blwyddyn 4 Miss Heledd Williams a Miss Broad.
Clwb HWB ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4 amser cinio.
Sesiwn bêl-droed i ddisgyblion blwyddyn 5 gyda Chasnewydd prynhawn 'ma.
(Dosbarth Mr Price a disgyblion blwyddyn 5 Miss Heledd Williams.)
Clwb pêl-droed ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6. (3:30 - 4:30)
Dydd Gwener:
* Diwrnod y Trwynau Cochion - byddwn yn codi arian ar gyfer elusennau amrywiol heddiw. *
Gall y disgyblion wisgo gwisg anffurfiol / dillad smotiog i'r ysgol os ydynt yn dymuno.
Gwers ffidil ar gyfer plant blwyddyn 2 Miss W Williams.
Clwb HWB ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn ystod amser cinio.
Bydd rhai o ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn helpu disgyblion blwyddyn 5 Ysgol Coed Eva gyda'u gwaith Cymraeg prynhawn 'ma. (1:15-2:15)
Dydd Sadwrn:
Eisteddfod Gylch yr Urdd.
(Gweler y llythyr yn y rhan 'Llythyron Adref'.)
Pob lwc i bawb sy'n cystadlu!
Diolch.