Prynhawn Lles:

27th March 2019
Y thema ar gyfer prynhawn lles heddiw oedd 'diogelwch mewn dŵr'.
Edrychodd y disgyblion ar ddiogelwch dŵr mewn gwahanol gyrff o ddŵr e.e. afonydd, camlesi a'r môr. Edrychon nhw ar wahanol beryglon ac edrych ar beth ddylid ei wneud i gadw'n ddiogel o gwmpas dŵr.
Diolch hefyd i Sian o'r RNLI am ddod i gynnal gweithdai gwahanol gyda phedwar dosbarth yng Nghyfnod Allweddol 2 prynhawn yma.
Diolch yn fawr.