Llongyfarchiadau i'r dawnswyr disgo:
28th March 2019
Da iawn i'r dawnswyr disgo am ddod yn ail heno.
Aeth y tîm dawnsio disgo i gymryd rhan yn yr Eisteddfod ddawns yng Nghwm Rhymni heno a daethant yn ail yn y gystadleuaeth. Rydym yn falch iawn ohonynt i gyd am eu gwaith caled a hoffem ddiolch i Kai Fish, cyn-ddisgybl, am ei holl waith caled yn hyfforddi'r merched.
Diolch yn fawr iddo ef a Miss Thomas a llongyfarchiadau i bawb.