Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

4th April 2019

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân.

Band yr wythnos yw Fflur Dafydd gyda 'Ffydd, Gobaith, Cariad' a 'Rhoces'.
Patrwm iaith yr wythnos yw 'Dydw i ddim yn ....'

* Dyma ein hwythnos olaf cyn gwyliau'r Pasg. *

* Does dim clybiau ar ôl ysgol yr wythnos hon, ar wahân i Glwb Plant y Tri Arth a Chlwb yr Urdd ar gyfer plant blwyddyn 2 nos Lun. *

Dydd Llun:

Clwb Lles ar gyfer disgyblion CA2 yn ystod amser cinio.

Clwb chwaraeon yr Urdd i blant blwyddyn 2 ar ôl ysgol - 3:30 tan 4:30.

Dydd Mawrth:

Bydd cynrychiolwyr o Fferm Greenmeadow yn dod i weithio gyda phlant y Cynfod Sylfaen heddiw.

Clwb Celf ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.

Dim clwb gwnïo neu ymarfer côr ar ôl ysgol.

Dydd Mercher:

Cystadleuaeth bel-droed: Mae'r rhai sy'n cystadlu wedi derbyn llythyr yn barod.

Mae gwersi Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gwent ymlaen heddiw - 09:15 tan 11:15 yn llyfrgell yr ysgol.

Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday)
Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.

Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.

Clwb gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.
(Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion sy'n mynychu'r clwb.)

Dim clwb yr Urdd na chlwb pêl-rwyd.

Dydd Iau:

Gweithdai creadigol Ffa La La ar gyfer plant y feithrin, derbyn a blwyddyn 1.

Gwers nofio i ddisgyblion blwyddyn 4 Miss Heledd Williams a Miss Broad.

Clwb HWB ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4 amser cinio.

Sesiwn bêl-droed i ddisgyblion blwyddyn 5 gyda Chasnewydd prynhawn 'ma.
(Dosbarth Mr Price a disgyblion blwyddyn 5 Miss Heledd Williams.)

Dim clwb pêl-droed.

Dydd Gwener:

* Diwrnod gwisg anffurfiol i blant dosbarth Miss Hughes gan eu bod wedi ennill presenoldeb y mis ar gyfer mis Mawrth. *

Gwers ffidil ar gyfer plant blwyddyn 2 Miss W Williams.

Clwb HWB ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn ystod amser cinio.

Bydd rhai o ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn helpu disgyblion blwyddyn 5 Ysgol Coed Eva gyda'u gwaith Cymraeg prynhawn 'ma. (1:15-2:15)

* Byddwn yn gorffen ar gyfer Pasg heddiw. Bydd y disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol ar ddydd Mawrth, Ebrill 30ain. *

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr