Ymweliad gan Fferm Greenmeadow:
9th April 2019
Daeth ymwelwyr arbennig o Fferm Greenmeadow i'r ysgol heddiw.
Y thema ar ôl Pasg ar gyfer plant y Cyfnod Sylfaen yw 'anifeiliaid'. Heddiw, cafodd y disgyblion ymweliad gan rai anifeiliaid arbennig i danio diddordeb ar gyfer eu thema newydd. Roedd y plant wrth eu boddau'n dysgu am rai o'r anifeiliaid a mwynhaodd pawb gael cyfarfod â phob un ohonynt.
Edrychwn ymlaen at ddechrau'r thema newydd yn ystod yr wythnosau nesaf.
Diolch yn fawr.