Gweithdy Diogelwch ar y ffordd:
13th June 2019
Diolch i Kate Kerr am ddod i gynnal gweithdy diogelwch ar y ffordd gyda disgyblion blwyddyn 6 bore 'ma.
Gyda disgyblion blwyddyn 6 yn symud ymlaen i'r ysgol uwchradd y flwyddyn nesaf, daeth Kate i'r ysgol i siarad gyda nhw am ddiogelwch ar y ffordd. Dechreuodd y disgyblion feddwl am y ffordd i'r ysgol y flwyddyn nesaf a pha beryglon allai fod yn eu disgwyl.
Roedd y gweithdy'n werthfawr iawn - diolch yn fawr i Kate.