Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

20th June 2019

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Dydd Llun:
Clwb Lles yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2.
Bydd dosbarth Mr Price yn derbyn hyfforddiant Addysg Gorfforol heddiw ar sut i gynnal clybiau Addysg Gorfforol eu hunain. (Gall y disgyblion yn nosbarth Mr Price wisgo cit ymarfer corff i'r ysgol heddiw.)
Clwb 'Pound Fit' ar ôl ysgol tan 4:45.

Dydd Mawrth:
Clwb Celf ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.
Cyngerdd côr yn Gravells, y Fenni. (Bydd angen gwisg y côr at y disgyblion os gwelwch yn dda.)
Prynhawn agored i rieni / gwarchodwyr disgyblion blwyddyn 5 yn Ysgol Gyfun Gwynllyw.
Cyfarfod i rieni / gwarchodwyr disgyblion blwyddyn 6 yn Ysgol Gyfun Gwynllyw am 5 o'r gloch.
Clwb coginio i ddisgyblion blwyddyn 3 ar ôl ysgol. (3:30-4:30)
Ymarfer côr ar ôl ysgol. (3:30 - 4:30)

Dydd Mercher:
Gwyl Chwaraeon yng Ngwynllyw ar gyfer disgyblion blwyddyn 6.
(Gall y disgyblion wisgo gwisg ymarfer corff i'r ysgol a bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion os gwelwch yn dda.)
Bydd rhai disgyblion blwyddyn 5 yn treulio'r diwrnod yng Ngwynllyw ar gyfer gwyl ryngwladol.
(Mae'r rhai sy'n cymryd rhan wedi derbyn llythyr.)
Rownd derfynol y Cwis Llyfrau yn Aberystwyth.
(Mae'r rhai sy'n cystadlu wedi derbyn llythyr.)
Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday)
Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.
Clwb gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4. (3:30 - 4:30)
Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3, 4, 5 a 6. (3:30 - 4:30)

Dydd Iau:
Gwasanaeth blynyddoedd 3 a 4 - 09:30 yn neuadd yr ysgol.
(Dosbarthiadau Miss Broad, Miss Westphal a Mrs Lewis)
* Dim gwers nofio heddiw. *
Clwb natur ar gyfer plant blwyddyn 2 yn ystod amser cinio.
Clwb HWB ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4 yn ystod amser cinio.
Mabolgampau'r Urdd: Bydd rhai disgyblion CA2 yn cystadlu ym Mabolgampau'r Urdd yn Stadiwm Cwmbrân heno rhwng 4 a 5:45. (Mae'r rhai sy'n cystadlu wedi derbyn llythyr.)
** Does dim clwb pêl-droed ar ôl ysgol heno gan fod Mabolgampau'r Urdd ymlaen heno hefyd. **

Dydd Gwener:
Taith diwedd blwyddyn plant blwyddyn 2 i Noah's Ark. (Dosbarthiadau Miss Hughes a Miss W Williams)
Bydd angen iddynt wisgo gwisg ysgol a dod â phecyn cinio os gwelwch yn dda.
Sesiwn beicio ar gyfer disgyblion blwyddyn 6 sy'n cymryd rhan.
Ffair Haf yr ysgol: Dewch i ymuno gyda ni yn yr ysgol o 3:30 ymlaen.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr