Gŵyl Chwaraeon Gwynllyw:
26th June 2019
Mwynhaodd disgyblion blwyddyn 6 gymryd rhan yn yr Ŵyl Chwaraeon yng Ngwynllyw heddiw.
Fel rhan o'r broses bontio, mwynhaodd disgyblion blwyddyn 6 ŵyl chwaraeon yng Ngwynllyw heddiw. Bu'r disgyblion yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau, o bêl-rwyd i pêl-droed ac o rygbi i ddawnsio. Chwaraeodd y disgyblion yn dda iawn ac roeddent wedi mwynhau cystadlu yn erbyn ysgolion eraill yn y clwstwr. Da iawn i'r tîm pêl-droed a enillodd eu cystadleuaeth a da iawn i'r disgyblion am ddod yn gyd-enillwyr yr ŵyl gyfan.
Da iawn a diolch i'r adran Addyg Gorfforol yn Ysgol Gwynllyw am drefnu'r diwrnod.
Diolch yn fawr.