Trefniadau'r Wythnos:
30th January 2020
Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
Patrwm iaith yr wythnos yw i ddefnyddio ‘Mae’ ar ddechrau brawddegau e.e. Mae .... gyda fi’.
Dydd Llun:
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion o flynyddoedd 2 a 3 tan 4:30.
(Mae hwn yn cael ei dalu yn uniongyrchol drwy'r Urdd.)
Blwyddyn 6 - gofynnwn yn garedig am y blaendal o £30 ar gyfer taith Llangorse heddiw.
Dydd Mawrth:
Diwrnod Diogelwch ar y we.
Gwasanaeth disgybl yr wythnos - 09:10 yn neuadd yr ysgol.
Clwb pêl-droed tan 4:30 ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 .
Clwb gwnïo ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 tan 4:30.
Ymarfer dawnsio disgo i'r rheiny sy'n cystadlu yn yr Eisteddfod tan 4:30.
(Mae'r rhai sy'n cystadlu wedi derbyn llythyr.)
Dydd Mercher:
Wheelie Wednesday: Rydym yn annog y disgyblion i ddod i'r ysgol drwy gerdded neu ddefnyddio beic neu sgwter.
Bydd milfeddyg lleol yn cynnal gweithdai gyda phlant o flynyddoedd 1 a 2 heddiw.
Sesiynau yoga ar gyfer disgyblion o flynyddoedd 4 i 6.
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 dosbarth Miss Westphal.
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion CA2 tan 4:30.
Dydd Iau:
Bydd aelodau o'r Eco-bwyllgor, y Tîm Lles a'r Cyngor Ysgol yn mynd ar daith i'r Senedd heddiw.
(Bydd y disgyblion yn bwyta cinio cyn gadael yr ysgol a bydd angen iddynt wisgo gwisg ysgol os gwelwch yn dda.)
Ymarfer côr ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 ar ôl ysgol tan 4:30.
Dydd Gwener:
Dydd Miwsig Cymru:
Byddwn yn dathlu cerddoriaeth Gymraeg yn yr ysgol heddiw.
Gwers fiolin i ddosbarth Miss Hughes.
Cystadleuaeth 'Cogurdd' i'r rheiny sydd eisiau cystadlu.
Diolch yn fawr.