Trefniadau Mis Medi:
19th August 2020
Edrychwn ymlaen at groesawu'r disgyblion yn ôl i'r ysgol mewn ychydig wythnosau.
Isod, ceir rhai manylion am drefniadau mis Medi. Er mwyn gweld y manylion i gyd, ewch i'r rhan 'Llythyron Adref' o'r wefan er mwyn gweld y llythyr a ddanfonwyd adref ar Orffennaf 27ain.
Erbyn 14eg Medi, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl y bydd pob plentyn (gan gynnwys Meithrin a Derbyn) yn ôl yn yr ysgol ac y bydd mynychu'r ysgol yn orfodol.
Er mwyn cynorthwyo gyda hyn, rydym yn teimlo byddai’n fuddiol iawn i’n disgyblion ddychwelyd mewn grwpiau llai yn ystod dau ddiwrnod cyntaf y tymor. Ni fydd llawer o'n disgyblion wedi bod yn yr ysgol ers yr 20fed o Fawrth. Rhaid i ni sicrhau eu bod i gyd yn teimlo'n gyffyrddus ac yn cael cyfle i gyfarwyddo â'u dosbarth a'u hathro/wes newydd.
Bydd y ddau ddiwrnod cyntaf (Medi’r 1af a’r ail) yn ddiwrnodau i’r staff yn unig. Bydd hanner ein disgyblion (Grŵp 1) yn dychwelyd ar ddydd Iau, 3ydd o Fedi gyda'r hanner arall (Grŵp 2) yn mynychu ddydd Gwener, 4ydd o Fedi.
Grŵp 1 – TEULUOEDD YN UNIG
(DISGYBLION SYDD Â BRAWD NEU CHWAER YN YR YSGOL)
Dylent fynychu'r ysgol ar:
Ddydd Iau, 3ydd o Fedi ac yna bob dydd o'r 7fed o Fedi 2020.
Grŵp 2 – UNIGOLION YN UNIG
(OS NAD OES BRAWD NEU CHWAER YN YR YSGOL)
Dylent fynychu'r ysgol ar:
Ddydd Gwener, 4ydd o Fedi ac yna bob dydd o'r 7fed o Fedi 2020.
O ddydd Llun, 7fed o Fedi, bydd POB disgybl yn dychwelyd ac yn mynychu bob dydd.
Diolch yn fawr.