Newidiadau i ddechrau tymor y gwanwyn:

Newidiadau i ddechrau tymor y gwanwyn:

17th December 2021

Bydd y disgyblion yn ail ddechrau ar ôl y gwyliau ar ddydd Iau, Ionawr 6ed.

(Er mwyn gweld yr wybodaeth i gyd, ewch i'r adran 'Llythyron Adref' ar y wefan.)

Oherwydd effaith bosibl yr amrywiad Covid-19 Omicron dros yr wythnosau nesaf, mae Llywodraeth Cymru wedi gorfodi pob ysgol yng Nghymru i gymryd dau ddiwrnod cyntaf y tymor newydd (dydd Mawrth 4ydd a dydd Mercher 5ed Ionawr) fel diwrnodau cynllunio ychwanegol i baratoi ar gyfer unrhyw darfu bosib fydd ar ddysgu ac addysgu.

Bydd y diwrnodau hyn yn rhoi amser ychwanegol i'r ysgol asesu’r sefyllfa staffio, ailystyried asesiadau risg ac rhoi unrhyw fesurau angenrheidiol ar waith i gefnogi dychweliad ein dysgwyr.

Blaenoriaeth ein hysgol yw lleihau'r tarfu ar addysg ein disgyblion a chynnal dysgu wyneb yn wyneb
yn yr ystafell ddosbarth mewn ffordd ddiogel i bawb. Fodd bynnag, er mwyn amddiffyn ein disgyblion
a'n staff, gofynnir i ni hefyd baratoi ar gyfer cyfnod o ddysgu o bell pe bai achosion yn lleol yn arwain
at absenoldeb sylweddol staff neu ddisgyblion.

Mae hon yn sefyllfa sy'n symud yn gyflym iawn felly byddwn hefyd yn sicrhau os oes unrhyw
ddiweddariadau pellach dros y gwyliau, y byddwn yn rhannu'r rhain cyn dychwelyd i'r ysgol.

Roedd disgwyl i'r disgyblion ddychwelyd i'r ysgol ar Ionawr 5ed, byddant nawr yn dychwelyd ddydd
Iau, Ionawr 6ed 2022. Ni fydd yr ysgol ar agor i UNRHYW ddisgyblion ar y 4ydd neu'r 5ed o Ionawr.
Bydd y diwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd i staff yn cael ei aildrefnu ar gyfer hwyrach yn y flwyddyn
academaidd.

Diolch yn fawr am eich cefnogaeth barhaus.

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr