Diwrnod Siwmper Nadolig:
28th November 2022
Ar ddydd Iau, Rhagfyr 8fed, byddwn yn cymryd rhan mewn diwrnod siwmper Nadolig.
Gall y disgyblion wisgo siwmper Nadolig / addurn Nadoligaidd / gwisg anffurfiol i’r ysgol os ydynt yn dymuno.
Eleni, rydym wedi penderfynu y byddwn yn helpu pobl yn y gymuned leol gan ddarparu bagiau o nwyddau ymolchi i’r rhai sydd eu hangen. Byddwn yn dosbarthu’r bagiau i’r banc bwyd lleol, elusennau lleol ac i siop ‘Zero Waste Torfaen’ lle byddant yn cael eu dosbarthu yn ôl yr angen.
Rydym yn gofyn yn garedig i bob blwyddyn ddod â nwyddau gwahanol ar gyfer y bagiau ond gwerthfawrogwn unrhyw gyfraniad. Mae’r rhestr wedi cael ei phenderfynu gan aelodau ein Cyngor Ysgol.
Derbyn / Reception: Sebon / Soap
Blwyddyn 1 / Year 1: Siampŵ / Shampoo
Blwyddyn 2 / Year 2: ‘Conditioner’
Blwyddyn 3 / Year 3: Gel cawod / Shower gel
Blwyddyn 4 / Year 4: Diaroglydd / Deodorant
Blwyddyn 5 / Year 5: Brwsh dannedd / Tooth brush
Blwyddyn 6 / Year 6: Past dannedd / Toothpaste
Meithrin / Nursery: Unrhyw un o’r uchod / Any of the above
Diolch yn fawr.