Cystadleuaeth 'Carol yr ŵyl':

Llun o'r côr

19th December 2024

Llongyfarchiadau mawr i bawb gymerodd ran yng nghystadleuaeth 'Carol yr ŵyl'.

Roedd yn hyfryd gweld y disgyblion yn canu ar raglen 'Prynhawn Da' a, thrwy gydol y broses, mae bob un wedi bod yn wych. Rydyn ni mor falch ohonynt i gyd.

Diolch yn FAWR i Mr Beecham am yr holl waith gyda cherdd yn yr ysgol y tymor hwn, a diolch mawr iddo am ei holl help a chymorth gyda Charol yr ŵyl.

Diolch hefyd i Mrs Roberts am weithio mor galed gyda'r côr yn yr ymarferion i gyd.

Cofiwch wylio rhaglen arbennig 'Carol yr ŵyl' ar S4C nos yfory (Rhagfyr 20fed) am 8 o'r gloch.

Pob lwc i bawb!


^yn ôl i'r brif restr